Description
Taflen Efengyl Cristion. Evangelistic Christian gospel tracts in Welsh Cymraeg.
EXTRACT:
Mae’n gwestiwn syml – ac onid yw’r ateb yn amlwg? Siawns fod pobl dda i gyd yn mynd i’r nefoedd – iawn? Na. Dydyn nhw ddim. Ddim yn ôl dysgeidiaeth Iesu, Mab Duw.
Nododd Iesu’n glir mai dim ond Duw sy’n dda. Yn wir, dywed y Beibl wrthym fod yr holl bobl wedi pechu ac yn brin o gyrraedd gogoniant Duw. Yn amlwg felly, ni allwn fynd i’r nefoedd am ein bod yn dda – gan nad ydym yn ddigon da! Safon Duw yw perffeithrwydd a dim ond un person erioed sydd wedi byw bywyd perffaith a dibechod – Iesu Grist.
Gan ein bod i gyd yn bechaduriaid, yr hyn sydd ei angen arnom i allu mynd i’r nefoedd yw maddeuant. Mae Iesu wedi ei gwneud yn bosibl i bob person yn y byd gael maddeuant. Bu farw ar groes gan gymryd ein pechod a’r gosb amdano arno’i hun fel y gallwn ni bob un dderbyn maddeuant Duw.
Heddiw, mae Duw yn addo y bydd pawb sy’n credu yn ei fab Iesu Grist yn cael maddeuant ac yn derbyn bywyd newydd – bywyd tragwyddol. Dyma fywyd Iesu ynom ni, sy’n ei gwneud yn bosibl i ni fyw yn y nefoedd rhyw ddydd. Derbyniwn y bywyd newydd hwn pan
wahoddwn yr Arglwydd Iesu i ddod yn Waredwr i ni ac i fyw yn ein calonnau – galwodd Iesu’r profiad hwn yn ‘eni o’r newydd’.
Gall pob person gael ei eni o’r newydd. Mae mor syml ag 1, 2, 3:
1. Cyfaddef i Dduw eich bod wedi pechu ac angen ei faddeuant. Allwch chi byth bythoedd obeithio bod yn ddigon da i fynd i’r nefoedd drwy eich teilyngdod eich hun.
2. Credu i Iesu farw ac atgyfodi i roi bywyd tragwyddol i chi. Deallwch y gallwch fynd i’r nefoedd drwy ei deilyngdod ef.
3. Cyffesu eich ffydd yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr i chi. Dywed y Beibl “Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.” (Rhuf. 10:9)
RHOWCH EICH FFYDD YN IESU FEL GWAREDWR HEDDIW A BYDDWCH AR EICH FFORDD I’R NEFOEDD!
Taflen efengyl Cristion.
Reviews
There are no reviews yet.